Skip to content

Ein Gwaith Ni

fullsizeoutput_d5d5.jpeg

Fel corff llywodraethu cenedlaethol Athletau yng Nghymru, rydym yn edrych ar ôl bob un o ddisgyblaethau’r maes Athletau, o’r cystadlaethau syml i dimau Gemau’r Gymanwlad. Gweithiwn gyda’n partneriaid a rhanddeiliaid ledled Cymru i gefnogi ein rhwydwaith cynyddol o glybiau a’u haelodau drwy ddarparu strwythur cymorth a chyswllt. Ein nod yw sicrhau bod cyfleoedd diogel, difyr a hygyrch ar gael i bawb gael cymryd rhan. 

· Rydym yn gweithio gyda chlybiau a threfnwyr digwyddiadau i sicrhau bod cyfleoedd cystadlu o’r safon uchaf ar gael ledled Cymru drwy ein prosesau trwyddedu cystadlaethau. 

· Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol i ddatblygu a darparu cyfleoedd i Blant a Phobl Ifanc gael rhoi cynnig ar a chymryd rhan mewn athletau a chystadlaethau yn yr ysgol a thu allan i’r ysgol. 

· Rydym yn moderneiddio trefn lywodraethol athletau’n barhaus ar y cyd â chyrff llywodraethu gwledydd eraill y DU ac UK Athletics. Ein nod yw gweithio i sicrhau bod athletau’n cael eu cyflwyno’n ddiogel ac yn ddiddorol mewn ffordd effeithlon a difyr.