Skip to content

Trwyddedu Rasys

Mae diogelwch a threfn ym mhob cystadleuaeth yn rhan hanfodol o genhadaeth Athletau Cymru. Mae’r cynllun Trwyddedu Rasys wedi ei gynllunio i sicrhau safonau uchel ym mhob digwyddiad a gynhelir yn enw Athletau Cymru.

  • Rhaid i glybiau a sefydliadau sydd eisiau bod yn Ddarparwyr Cystadlaethau wneud cais am aelodaeth gyswllt arbennig.
  • Caiff clybiau/sefydliadau athletau sydd ag aelodaeth gyswllt ag Athletau Cymru eisoes anfon cais am drwydded heb fod angen talu unrhyw ffi ychwanegol.
  • Bydd yn rhaid i sefydliadau a chlybiau nad oes ganddynt aelodaeth gyswllt dalu £50 y flwyddyn (a ddylid ei anfon gyda’r cais).

Ffurflen gais Darparwr Cystadlaethau (PDF)

Ar ôl derbyn y cais, bydd Athletau Cymru yn anfon llythyr o gadarnhad, sy’n cynnwys rhif aelodaeth gyswllt unigryw.

Bydd angen cynnwys y rhif aelodaeth gyswllt ym mhob gohebiaeth gyda’r Swyddog Trwyddedu. Er mwyn trefnu digwyddiad, mae’n ofynnol i’r Darparwyr Cystadleuaeth anfon y ffurflen benodol ar gyfer y ddisgyblaeth, sydd ar gael isod, yn uniongyrchol i’r Swyddog Trwyddedu, a fydd wedyn yn cyflwyno Trwydded Athletau Cymru a fydd yn cynnwys gwybodaeth am y digwyddiad a’r rhif aelodaeth gyswllt.

 

Yswiriant fel Trefnydd Digwyddiad Chwaraeon

Ceir gwybodaeth am yr hyn y mae’r yswiriant hwn yn ei gynnwys drwy glicio yma. Sylwer os gwelwch yn dda: Dylai trefnydd y digwyddiad roi gwybod i British Athletics os bydd eu cystadleuaeth yn cael ei dangos ar y teledu.