Skip to content

Aelodau Cwmni a'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Er mwyn bod yn aelod o’n Cwmni, rhaid gwneud cais a chael eich cymeradwyo gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr. Mae Aelodaeth yn agored i gynrychiolwyr cynghorau a chlybiau cyswllt, aelodau bywyd, cyfarwyddwyr y cwmni ac unigolion a sefydliadau eraill.

Mae ein Herthyglau Cymdeithasu a’n Is-ddeddfau’n disgrifio sut mae cymhwyso ar gyfer Aelodaeth gyda’r Cwmni a hawliau Aelodau’r Cwmni i dderbyn hysbysiadau, i fynychu Cyfarfodydd Cyffredinol, i siarad a phleidleisio eu hunain neu drwy ddirprwy. I wneud cais am Aelodaeth Cwmni sy’n cynrychioli clwb cyswllt, llenwch y ffurflen Enwebiad ar gyfer Ymaelodi â’r Cwmni a’i dychwelyd i office@welshathletics.org neu argraffwch a phostiwch y fersiwn PDF

Mae’r Bwrdd yn gwneud yn siŵr bod cofnodion Cyfarfodydd Cyffredinol y Bwrdd yn cael eu cadw ac yn cynnal cofrestrau o Glybiau ac Aelodau’r Cwmni. Mae’r rhain ar gael i’w gweld isod:

Aelodau’r Cwmni a Chlybiau fel ag yr oeddent yn Chwefror 2019 

Caiff cofrestr aelodau’r cwmni ei chynnal yn barhaus a’i diweddaru yma cyn unrhyw Gyfarfod Cyffredinol.