Skip to content

Cystadlu dros Gymru

Cari Hughes Liverpool XC 2018.jpg

Amcan cyffredinol y rhaglen Gystadlu Ryngwladol yw paratoi athletwyr Cymru ar gyfer perfformio hyd eithaf eu gallu mewn Pencampwriaethau Mawr. Fel rhan o’r strategaeth honno, mae Athletau Cymru’n ymroddedig i ddarparu cyfleoedd cystadlu rhyngwladol yn yr holl ddisgyblaethau.

Categoreiddir cystadlaethau rhyngwladol fel un o’r canlynol:

  1. Gornest Ryngwladol (pan fo tîm Cymreig wedi ei faesu mewn rhaglen gystadleuol yn erbyn timau eraill)

  2. Rhaglen Ryngwladol Dramor neu Wladol y tymor (cystadleuaeth dramor neu wladol sy’n rhoi amgylchedd ffafriol i athletwyr Cymreig o’r safon briodol gael canlyniad da)

Er mwyn cael eu hystyried i gynrychioli Cymru, rhaid i’r athletwyr fodloni’r Meini Prawf Cymhwyso a nodir isod.

Ffurflen Lles – llenwch a’i e-bostio i Steve.jones@ws-aa.org 

Ffurflen Cit Kukri – llenwch a’i e-bostio i Rhiannon@welshathletics.org

 

Meini Prawf Cymhwyso er mwyn cystadlu dros Gymru

Sail cymhwysedd:

1.     Genedigaeth

2.     Rhieni – angen i’r athletwr fynd drwy’r system gymhwyso er mwyn profi bod ganddo/ganddi riant o Gymru.

3.     Preswyliad – 2 flynedd yn byw’n barhaol yng Nghymru. Mae angen i’r athletwr fynd drwy’r system gymhwyso er mwyn profi ei fod/ei bod wedi byw’n barhaol yng Nghymru am o leiaf 2 flynedd. Sylwer: mae angen i athletwyr sy’n dymuno cael eu hystyried ar gyfer Gemau’r Gymanwlad fod wedi byw’n barhaol yng Nghymru am o leiaf 5 mlynedd. Rhaid iddynt hwythau fynd drwy’r system gymhwyso.

4.     Wedi cystadlu ar sail preswyliad yn y gorffennol – athletwyr sydd wedi cystadlu dros Gymru ar lefel uwch  a mynd drwy’r broses gymhwyso ond sydd wedi symud o Gymru. (wedi mynd drwy’r broses gymhwyso ar sail preswyliad.) Sylwer: Ni ellir ystyried athletwyr sy’n cymhwyso yn y dull hwn ar gyfer Gemau’r Gymanwlad.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â jacqueline.brace@welshathletics.org