Skip to content

Trosglwyddiadau a Chymhwysedd

Erbyn hyn mae proses i athletwyr cofrestredig sy’n symud eu haelodaeth Hawl Gyntaf rhwng Athletau Cymru a chlybiau cyswllt.

(Proses ar gyfer newid clybiau o fewn Cymru yn unig yw’r broses ar-lein hon. Os ydych chi’n trosglwyddo i glwb mewn rhan arall o’r DU, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen gais bapur a geir gan Gorff Llywodraethu’r genedl briodol.)

Llenwi’r cais ar-lein

  1. Mewngofnodwch i’ch porth myATHLETICS UKA gyda’ch cyfeirnod a’ch cyfrinair
  2. Ar ôl mewngofnodi, cliciwch ar dab “Club Transfer” ar ochr chwith y sgrîn. Bydd hyn yn agor sgrîn “First Claim Club Transfer
  3. Er mwyn cychwyn y cais i newid clwb Hawl Gyntaf, cliciwch ar “start new transfer”.
  4. Nodwch enw’r clwb newydd yr ydych yn trosglwyddo iddo yn y man priodol a nodwch unrhyw sylwadau yr hoffech eu hanfon i’r clwb yr ydych yn dymuno ei adael. Ar ôl llenwi’r ddau focs, cliciwch y bocs yn y gornel isaf ar y chwith ar ôl darllen a chytuno i delerau ac amodau’r trosglwyddiad. Os nad oes tâl (U15s) yn berthnasol, eir â chi i dudalen ‘transfer complete’.
  5. Gwybodaeth filio. Llenwch y bocsys a amlygir er mwyn nodi’r cyfeiriad lle mae eich cerdyn talu wedi ei gofrestru ac yna cliciwch y botwm “review and pay”. 
  6. Edrychwch dros eich manylion ar y sgrin nesaf a thiciwch y bocs i gadarnhau ar gornel isaf y sgrin ar y chwith ac yna cliciwch ar “go to payment” er mwyn mynd ymlaen i’r sgrîn nesaf.
  7. Dewiswch eich dull o dalu a nodwch y manylion cerdyn y gofynnir amdanynt. Cliciwch ar “Pay £10 now” i gwblhau eich trosglwyddiad.

Bydd sgrin club transfer complete yn ymddangos gyda manylion am gam nesaf y broses a manylion cyswllt Athletau Cymru. Byddwch yn derbyn diweddariadau ynglŷn â datblygiad eich cais drwy e-bost. 

Mae pwyllgor Athletau Cymru’n cyfarfod unwaith y mis er mwyn trafod a chymeradwyo ceisiadau a gyflwynir gan athletwyr er mwyn:

  • symud o glwb Hawl Gyntaf i un arall neu
  • symud i glwb Hawl Uwch ar gyfer Cynghrair Prydain
  • ennill cymhwysedd i gystadlu dros Gymru.

Ffurflen Drosglwyddo Athletwr

Trosglwyddiadau Athletwyr

2019

Ion

Chwef

Maw

Ebr

Mai

Meh

Gor

Awst

Medi

Hyd

Tach

Rhag

2018

Ion

Chwef

Maw

Ebr

Mai

Meh

Gor

Awst

Medi

Hyd

Tach

Rhag

 

Caiff athletwyr bellach gyflwyno eu ceisiadau i drosglwyddo ar-lein drwy eu porth myAthletics.

 

Meini Prawf cymhwyso er mwyn cynrychioli Cymru

Sail ar gyfer cymhwyso:

  1. Genedigaeth
  2. Rhieni – athletwr i fynd drwy’r system gymhwyso er mwyn profi bod ganddynt riant o Gymru.
  3. Statws preswylio – 2 flynedd o fyw yn Gymru yn barhaus. Athletwr i fynd drwy’r system gymhwyso er mwyn profi ei fod wedi byw yn Gymru yn barhaus am o leiaf 2 flynedd. Sylwer: Mae angen i athletwyr sy’n dymuno cael eu hystyried ar gyfer Gemau’r Gymanwlad fod wedi byw yn Gymru yn barhaus am o leiaf 5 mlynedd. Bydd angen mynd drwy’r system gymhwyso o hyd.

ch. Cadw statws – athletwyr sydd wedi cystadlu dros Gymru ar lefel uwch a mynd drwy’r system gymhwyso ond sydd wedi symud o Gymru. (wedi bod drwy’r system gymhwyso ar sail statws preswylio.) Sylwer: Ni chaiff athletwyr sy’n cadw eu statws gael eu hystyried ar gyfer Gemau’r Gymanwlad.

Unrhyw ymholiadau? Cysylltwch â jacqueline.brace@welshathletics.org

·    Os ydych chi’n symud o un o glybiau Cymru i glwb yn Lloegr, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen drosglwyddo bapur a’i hanfon i England Athletics.

·    Os ydych chi’n symud o glwb yn Lloegr i glwb yng Nghymru, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen drosglwyddo bapur a’i hanfon i Athletau Cymru.

·     SYLWER: Mae angen i bob athletwr sydd wedi cofrestru â chlwb o fewn y 3 blynedd ddiwethaf fynd drwy’r broses drosglwyddo.

 

Yn ogystal â chael Clwb Hawl Gyntaf, mae gan athletwr hawl i ddod yn aelod o Glwb Ail Hawl. Er mai am resymau cymdeithasol, hyfforddiant neu resymau eraill y byddai hyn yn digwydd o bosib, caiff yr athletwr gystadlu i’r clwb hwnnw mewn cystadleuaeth sy’n nodi’n benodol yn ei rheolau bod y gystadleuaeth yn agored i Aelodau Ail Hawl. Diffinnir athletwr o’r fath wedi hynny fel Aelod Ail Hawl. Rhaid i unrhyw glwb sy’n derbyn Aelod Ail Hawl gadarnhau gydag Athletau Cymru bod yr athletwr wedi cofrestru drwy ei glwb hawl gyntaf yn barod.

1.     Rhaid derbyn ceisiadau erbyn y degfed o’r mis a bydd yn weithredol o ddiwrnod cyntaf y mis canlynol. Bydd unrhyw geisiadau a dderbynnir ar ôl y degfed yn cael eu cadw tan y mis nesaf.

2.     Mae’r rhan fwyaf o drosglwyddiadau’n awtomatig erbyn hyn, ond os bydd athletwr yn gwneud ail hawl trosglwyddo o fewn cyfnod o ddeuddeng mis, nid yw’r trosglwyddiad yn digwydd ar y cyntaf o’r mis nesaf, bydd yn dod i rym dri mis yn ddiweddarach. Mewn rhai amgylchiadau mae gan yr athletwyr hawl i wneud apêl yn erbyn y penderfyniad hwn.

3.     Mae gan glybiau ac athletwyr yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Cymhwyso ar faterion trosglwyddo. 

4.     Atgoffir athletwyr bod yn rhaid i bob cais i gystadlu mewn cystadleuaeth uwch fod wedi ei dderbyn erbyn Mawrth y 1af. Mae’r ceisiadau’n ddilys am flwyddyn yn unig ac yn adnewyddadwy bob sesiwn.

Pan nad yw Clwb wedi cofrestru ar gyfer Cystadleuaeth Agored/Tîm mewn disgyblaeth benodol, caiff yr athletwr ymuno â Chlwb arall ar gyfer Cystadleuaeth Agored/Tîm Hawl Gyntaf i ddiben cystadleuaeth yn y ddisgyblaeth honno’n unig. Os bydd yr athletwr eisiau cofrestru ar gyfer Hawl Gyntaf Arall, rhaid iddo lenwi’r Ffurflen Hawl Gyntaf Arall a’i hanfon i Athletau Cymru i gael ei phrosesu. Mae’n rhaid i’r athletwr gofrestru bob blwyddyn gydag Athletau Cymru drwy ei Glwb Hawl Gyntaf.

 

Defnyddiwch y ffurflen hon.

O dan Reolau UKA, caiff unigolion wneud cais i ddod yn “aelodau ail hawl” o glybiau sy’n cystadlu mewn cystadlaethau lefel uwch. Mae’r gofyniad o fod wedi cofrestru ag Athletau Cymru a bodloni’r meini prawf cymhwysedd yn dal yn ddilys er mwyn cystadlu ym Mhencampwriaethau Cymru.

·        Ffurflen Hawl Uwch

Am flwyddyn yn unig y mae pob cais yn ddilys ac mae’n rhaid eu hadnewyddu bob blwyddyn.