Skip to content

strategaeth

 

 

Gweledigaeth a Chenhadaeth glir i athletau

  • Ymagwedd un tîm – pawb yn gweithio tuag at yr un amcan
  • Eglurder pwrpas i bawb, gan gynnwys Rhanbarthau, clybiau, gwirfoddolwyr
  • Sut y gallwn ni gynorthwyo ein clybiau i oresgyn eu sialensiau

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Barn Rhanddeiliaid

Ein nod oedd cysylltu â chymaint â phosib o randdeiliaid ledled Cymru. Er mwyn cyflawni hyn, gwnaethom y canlynol:

  • cynnal 14 fforwm agored,
  • creu holiadur ar-lein,
  • cynnal cyfres o gyfarfodydd clwb a chyfarfodydd unigol

Mynegwyd barn ynglŷn â’r meysydd canlynol:

  • clybiau, hyfforddi, cystadlu, athletau iau, gwirfoddoli, swyddogion, cyfleusterau a chyfathrebiadau gan y Corff Llywodraethu.

Cynhaliodd Athletau Cymru ymgynghoriad cynhwysfawr gyda’i aelodau yn 2018. Cymerodd 400 o’r aelodau ran yn y broses ac amlygwyd negeseuon cyson ynglŷn â’r sialensiau mwyaf sy’n wynebu ein clybiau dros Gymru. Amlygwyd tri phwynt ar ddeg ar gyfer eu hystyried ymhellach:

  1. Recriwtio a datblygu hyfforddwyr/arweinwyr – cysoni addysg a datblygiad – cyflwyniad lleol, ymrwymiadau tymor byr – cystadlaethau technegol angen ffocws penodol – yr angen am unigolyn dynodedig sy’n arwain hyfforddiant.
  2. Proffesiynoli Hyfforddi – ei gwneud yn alwedigaeth sy’n apelio, herio er mwyn gwella
  3. Recriwtio a datblygu swyddogion – gwobrwyo a chydnabod swyddogion – gwelir hyn yn her enfawr i’r maes ar gyfer y dyfodol
  4. Gwella’r ffordd y caiff negeseuon allweddol/ysbrydoledig eu cyfathrebu – cynyddu proffil athletau – gwell defnydd o ‘sêr’ i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf
  5. Egluro swyddogaethau’r clybiau/rhanbarthau – gwneud amgylchedd y clwb yn fwy croesawgar
  6. Gostwng baich y gwaith gweinyddol i wirfoddolwyr/clybiau/rhieni – gwella’r defnydd o dechnoleg
  7. Cefnogi clybiau i foderneiddio – gwella’r diwylliant o fewn y clybiau – eu gwneud yn fwy croesawgar a dengar
  8. Sicrhau bod y rhanddeiliaid allweddol (clybiau, rhieni, hyfforddwyr, Athletau Cymru) yn ymwybodol o’u swyddogaeth o ran datblygu athletau – bydd hyn yn gymorth er mwyn cynyddu cyfraddau cadw athletwyr
  9. Sefydlu llwybr cystadlu clir
  10. Gweithio i symleiddio athletau a’u cadw’n ddifyr
  11. Angen defnyddio athletau fel cyfrwng i ddatblygu buddiannau iechyd – gweithgaredd corfforol a lles
  12. Creu pencampwyr i ysbrydoli’r Genedl – peidio â chanolbwyntio ar y farchnad dorfol
  13. Cynyddu nifer ac ansawdd y cyfleusterau dros Gymru – angen gwella mynediad
  14. Angen cydweithio effeithiol rhwng hyfforddwyr, cystadlaethau a chlybiau

Camau nesaf

Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’n haelodau er mwyn sicrhau bod eich barn yn cael ei glywed ac er mwyn i athletau gael parhau i ddatblygu. Mae’n bwysig ein bod ni fel maes yn parhau i arloesi ac yn sicrhau bod athletau’n parhau i fod yn berthnasol i bob oedran. I’r diben hwn, rydym hefyd yn anelu i sicrhau cyfres o fforymau i athletwyr ifanc er mwyn inni gael ennyn barn ein hathletwyr iau – bydd gwybodaeth bellach ar gael cyn bo hir.

Yn y cyfamser, croesawir barn ein haelodau – mae pob croeso i chi gysylltu â ni os hoffech chi drafod y strategaeth newydd.

James Williams, Pennaeth Gweithrediadau