Skip to content

Gweithio fel Gwirfoddolwr

Tegan Foley 1.PNG

Gwirfoddolwyr yw enaid athletau. Nhw yw’r arwyr bob dydd sy’n golygu bod cystadlaethau rhedeg, meithrin talent a darparu cyfleoedd yn bosib. Dewch i fod yn rhan o rywbeth arbennig, i ennill sgiliau a helpu pobl i gyrraedd eu potensial…. Gwirfoddolwch.

Mae nifer o wahanol swyddogaethau a chyfrifoldebau ar gael i wirfoddolwyr sy’n ymddiddori yn y maes. Mewn nifer o achosion, mae’r clybiau’n ysu am gymorth gan wirfoddolwyr newydd ac yn croesawu unrhyw amser ac ymroddiad a gynigir i gefnogi eu gweithgareddau. Mae gwirfoddolwyr yn hanfodol yn y maes athletau ac yn darparu’r rhwydwaith cymorth sy’n galluogi gweithrediad athletau ym mhob rhan o Gymru.

Gwelir llawer o wirfoddolwyr yn datblygu ar amrywiol lwybrau’r maes athletau. Yn ogystal â’r swyddogaethau a’r cyfrifoldebau allweddol yn y clybiau, llwybr hyfforddwr neu swyddog yw’r llwybrau mwyaf cyffredin. I gael mwy o wybodaeth a, hyfforddi a gweinyddu ewch i’r adrannau ar hyfforddi a gweinyddu ar y wefan. Er mwyn dod o hyd i’ch clwb agosaf, ewch i’r tudalennau ar glybiau.

Os ydych chi’n diddori mewn bod yn wirfoddolwr, anfonwch e-bost i ni yn office@welshathletics.org gan nodi eich gwybodaeth gyswllt a’ch lleoliad.