Skip to content

Plant a Phobl Ifanc

LJ coaching.jpg

Mae Athletau Cymru’n gweithio’n agos â thimau datblygu chwaraeon awdurdodau lleol a chlybiau er mwyn darparu a chefnogi cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn athletau ledled Cymru. Disgrifir y cyfleoedd hyn isod: 

QUADKIDS

Fformat a ddefnyddir dros y DU yw QuadKids, y fformat a ddewisir amlaf ar gyfer Gemau ysgolion ac fe’i mabwysiadwyd hefyd gan ysgolion Cynradd ar gyfer eu Mabolgampau Iau. Mae’n caniatáu i ddisgyblion gymryd rhan gyda’i gilydd fel tîm a chystadlu mewn 4 cystadleuaeth, gan sgorio pwyntiau yn unol â’u perfformiadau. Yng Nghymru, ceir rowndiau rhagbrofol lleol fel arfer, lle gwahoddir ysgolion cynradd i gystadlu, wedi eu trefnu gan swyddog rhwydwaith y clwb lleol mewn partneriaeth ag arweinwyr datblygu chwaraeon. Bydd enillwyr y rowndiau hyn yn symud ymlaen i rownd derfynol yr awdurdod lleol, ac o’r fan hon gwahoddir y rhai sy’n cymhwyso i rownd derfynol ranbarthol.

  • Beth? Pedair camp: Naid hir o sefyll, taflu fortecs, 600, a 75m.
  • Pwy? Plant oed ysgol gynradd, ym mlynyddoedd 5 a 6 fel arfer. Mae tîm yn cynnwys 2 fachgen a 2 ferch yn yr un flwyddyn ysgol. Gwahoddir ysgolion i fynychu cystadlaethau QuadKids a byddant yn cael cofrestru timau yn y naill grŵp blwyddyn neu’r llall (gall hyn amrywio rhwng awdurdodau lleol / rhanbarthau).  
  • Sut?  Er mwyn cymryd rhan fel ysgol, cysylltwch â’ch Swyddog Rhwydwaith Clybiau lleol.

SPORTSHALL

Mae athletau Sportshall yn rhaglen gyffrous o weithgareddau athletau wedi’u haddasu ar gyfer plant 11-13 oed. Mae Sportshall yn rhoi ffyrdd difyr o feithrin sgiliau craidd ac yn enwog y cystadlaethau tîm bywiocaol. Sportshall yw prif raglen chwaraeon cystadleuol ysgolion y DU. Cyflwynir cystadlaethau Sportshall gan y rhanbarthau athletau ysgolion fel arfer, gyda chymorth gan Athletau Cymru, a hynny o fewn y cwricwlwm neu y tu allan i’r ysgol.  O’r cystadlaethau hyn, dewisir timau i gynrychioli rhanbarthau eu hysgolion yn Rownd Derfynol genedlaethol Sportshall.

  • Beth? Naid hir o sefyll, naid driphlyg o sefyll, naid uchel fertigol, sbonc gyflym, taflu maen, 2 lap, 4 lap
  • Pwy? Plant ysgolion uwchradd, 11-13 oed
  • Sut?  Er mwyn cymryd rhan fel ysgol, cysylltwch â’ch Swyddog Rhwydwaith Clybiau lleol.

TRAWS GWLAD

  • Beth?  Cystadleuaeth rhedeg dygnwch a gynhelir yn ystod tymor y gaeaf yw traws gwlad (mis Hydref – Mawrth fel arfer) ac mae’n ffordd ardderchog i gymryd rhan mewn athletau yn y gaeaf. Cynigiwn lwybr datblygu gwych ar gyfer rhedeg traws gwlad, o lefel sylfaenol i gystadlu cenedlaethol. Mae’r pellterau’n amrywio ar draws y grwpiau oedran ond yn cychwyn o 1200m yn yr ysgol gynradd i 5000m ar gyfer yr oedran hynaf mewn ysgolion uwchradd. Mae Athletau Cymru’n gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a rhanbarthau ysgolion i gynnal cystadlaethau traws gwlad lleol a rhanbarthol i bobl ifanc.
  • Pwy?  Mae cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn traws gwlad yn yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd.
  • Sut?  Er mwyn cymryd rhan fel ysgol, cysylltwch â’ch Swyddog Rhwydwaith Clybiau lleol.

PARKRUN IAU

  • Beth? Mae parkrun iau yn gyfres o rasys 2k ar gyfer plant rhwng 4 ac 14 oed. Fe’u cynhelir mewn mannau agored ar draws y DU. Maent yn agored i bawb, yn rhad ac am ddim ac mae’n hawdd cymryd rhan.
  • Pwy?  Plant rhwng 4 ac 14 oed.
  • Sut?  Er mwyn cymryd rhan mewn parkrun iau, ewch i wefan parkrun iau

YMUNO Â CHLWB

A yw eich plentyn yn mwynhau athletau? A ydych chi wedi cymryd rhan mewn ras hwyl i’r teulu ac wedi eich ysbrydoli i roi cyfleoedd rhedeg i’ch plentyn? Mae digon o gyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn Athletau; o’r rhai a ddisgrifir uchod i ymuno â chlwb. I gael mwy o wybodaeth ewch i dudalen Ymuno â Chlwb.