Skip to content

Ymuno â Chlwb

4.jpg

Ydych chi neu eich plentyn yn mwynhau athletau? Ydych chi wedi cymryd rhan mewn ras hwyl i’r teulu’n ddiweddar a chael eich ysbrydoli i wneud mwy o redeg? Mae digon o gyfleoedd ar gael i bobl o bob oed gymryd rhan mewn Athletau; o rasys hwyl lleol i’r teulu i parkrun ac ymuno â chlwb.

SUT I DDOD O HYD I GLWB ATHLETAU?

Gwych, rydych chi wedi eich ysbrydoli i ymuno â chlwb athletau! Mae gennym ni restr lawn o Glybiau Cyswllt Athletau Cymru ymaMae pob un o’r clybiau wedi eu gwirio ac wedi cwblhau proses gyswllt gyda ni er mwyn sicrhau eu bod yn gweithredu mewn amgylchedd diogel a chynhwysol.

BETH I’W DDISGWYL MEWN CLWB I ATHLETWYR IAU:

Caiff ein clybiau eu rhedeg gan wirfoddolwyr yn gyfan gwbl a chewch groeso cynnes. Bydd nifer o glybiau yn cynnig rhaglen aml-ddisgyblaethol i athletwyr ifanc er mwyn sicrhau eu bod yn datblygu’r sgiliau craidd sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer gwahanol ddisgyblaethau Athletau. Mae’n bwysig bod eich plentyn yn cael profiad o bob elfen o redeg, neidio a thaflu. Pan fydd athletwyr yn dod yn hyn, bydd cyfle iddynt ymuno â grwpiau arbenigol, lle byddant yn canolbwyntio ar gystadleuaeth benodol gyda hyfforddwr arbenigol.

Mae llawer o fanteision i ymuno â chlwb athletau, yn enwedig i athletwyr ifanc. Rhoddir hyfforddiant, cyngor a sesiynau datblygu o ansawdd uchel iddynt gan hyfforddwyr cymwysedig mewn amgylchedd diogel a difyr. Mae’n gyfle i wneud ffrindiau newydd a bod yn actif. Bydd y rhan fwyaf o glybiau’n derbyn plant 8 oed, ac mae nifer fechan o glybiau sy’n cynnig sesiynau athletau i blant o dan 8 – cysylltwch â’ch Swyddog Rhwydwaith lleol i gael mwy o wybodaeth. Mae’r clybiau hefyd yn rhoi cyfleoedd i athletwyr o bob gallu gystadlu o 9 oed ymlaen. Caiff y plant hefyd fwynhau cymryd rhan mewn digwyddiadau parkrun iau ledled Cymru, sydd ar gael i’r rhai rhwng 4 ac 14 oed. 

BETH I’W DDISGWYL MEWN CLWB I OEDOLION:

Mae ymuno â chlwb fel oedolyn yn ffordd ardderchog i wneud ffrindiau newydd, i gymdeithasu a dod yn fwy actif. P’un a ydych chi wedi cael profiad o athletau o’r blaen neu’n diddori am y tro cyntaf yn y chwaraeon, bydd croeso cynnes i chi bob amser. Os byddech chi’n hoffi rhoi cynnig ar wahanol ddisgyblaethau athletau, gwnewch yn siŵr bod y clwb yr ydych yn gobeithio ymuno ag ef yn cynnwys campau trac a maes. Os ydych chi’n diddori mewn rhedeg, ceisiwch ymuno ag un o’n clybiau rhedeg cyswllt. Os ydych chi’n dechrau rhedeg ac eisiau cychwyn gyda rhaglen ‘couch to 5km’, gallech ymuno ag un o’n grwpiau rhedeg cymdeithasol.

Mae Athletau Caerdydd yn croesawu aelodau newydd bob amser ac yn ymrwymo i sicrhau amgylchedd diogel a chwbl gynhwysol. Caiff aelodau newydd gyrraedd i un o’r nosweithiau hyfforddiant, llenwi’r gwaith papur a rhoi cynnig ar athletau am ddim. Os ydych chi’n mwynhau’r sesiwn am ddim cewch ymuno â’r clwb neu’r academi a mynychu sesiynau hyfforddiant rheolaidd, a gynhelir gan hyfforddwyr cymwys, a chystadlaethau. Mae gan y clwb Academi ar gyfer plant rhwng 7 ac 16 oed. Yn yr Academi dysgir egwyddorion sylfaenol athletau i blant mewn amgylchedd difyr a diogel.

Mark Gold, Athletau Caerdydd