Skip to content

Cymwysterau Swyddogol

O bwynt mynediad i weinyddu ar lefel byd-eang, mae Swyddogion yn dilyn llwybr tebyg i lwybrau athletwyr a hyfforddwyr. Mae Athletau Cymru’n cynnig cyrsiau a chyfleoedd datblygu er mwyn symud drwy’r tair lefel gyntaf.

Er mwyn dod yn Swyddog Cynorthwyol UKA Lefel 1 Trac neu’n Swyddog Maes Lefel 1 Trwyddedig, dilynwch y camau isod:

  1. Archebwch le ar y cwrs Swyddog am ddim drwy e-bostio ffurflen gais i zoe.holloway@welshathletics.org
  2. Byddwch yn derbyn cadarnhad drwy e-bost a fydd yn cynnwys eich rhif cyfeirnod unigryw (URN/WA).
  3. Defnyddiwch eich rhif cyfeirnod i fewngofnodi i borth myATHLETICS.
  4. Cwblhewch y Weithdrefn DBS ar-lein a llwythwch lun pasbort i’ch cyfrif.
  5. Mynychwch gwrs Assistant Official, Lefel 1 Trac neu Lefel 1 Maes. 
  6. Mynychwch fodiwl Iechyd a Diogelwch.
  7. Mynychwch 4 gwahanol* brofiad cystadlu a’u cofnodi ar eich ffurflen achrediad. 
  8. E-bostiwch eich ffurflen achrediad i zoe.holloway@welshathletics.org i gael ei graddio er mwyn derbyn Trwydded UKA Lefel 1.

 *Bydd angen i Swyddogion Maes Lefel 1 gael profiad o 1 naid lorweddol, 1 naid fertigol, 1 pwysau ac 1 tafliad hir. Bydd Cychwynnwr/Cynorthwyydd Cychwynnydd angen 4 profiad o bob disgyblaeth. Bydd Swyddog Cynorthwyol angen 2 brofiad o gystadleuaeth.

I ddod yn Swyddog Rhedeg Dygnwch Trwyddedig UKA Lefel 1 dilynwch y camau isod:

  1. Archebwch le ar y cwrs Swyddog am ddim drwy e-bostio ffurflen gais i zoe.holloway@welshathletics.org
  2. Byddwch yn derbyn cadarnhad drwy e-bost a fydd yn cynnwys eich rhif cyfeirnod unigryw (URN/WA).
  3. Defnyddiwch eich rhif cyfeirnod i fewngofnodi i borth myATHLETICS.
  4. Cwblhewch y Weithdrefn DBS ar-lein a llwythwch lun pasbort i’ch cyfrif.
  5. Mynychwch gwrs Swyddog Rhedeg Dygnwch Lefel 1
  6. Mynychwch fodiwl Ymwybyddiaeth o Risg.
  7. Mynychwch 4 gwahanol brofiad cystadlu a’u cofnodi ar eich ffurflen achrediad. 
  8. E-bostiwch eich ffurflen achrediad i zoe.holloway@welshathletics.org i gael ei graddio er mwyn derbyn Trwydded UKA Lefel 1.

I gael mwy o wybodaeth ar cymwysterau i swyddogion, gweler isod.

Mae’r cwrs Swyddog Cynorthwyol yn gyflwyniad sylfaenol i feysydd allweddol gweinyddu athletau. Bydd yn eich galluogi i gynorthwyo mewn cyfarfodydd trac a maes dan oruchwyliaeth Swyddog Technegol UKA cymwysedig.

 

Manylion y cwrs

 

Parhad: 2-3 awr

 

Cynnwys:

  • Cyfrifoldebau a swyddogaeth Swyddog Cynorthwyol
  • Mesur a chofnodi amseroedd a phellter
  • Gwneud, rhannu a chofnodi dyfarniadau
  • Sicrhau diogelwch a rhoi gwybod am unrhyw bryderon
  • Cyfathrebu gydag athletwyr a swyddogion eraill
  • Dilyn gweithdrefnau a chadw at y rheolau sylfaenol

Oed lleiaf: 14

 

Pris: Am ddim

 

I weld dyddiadau cyrsiau sydd ar y gweill cliciwch yma.

Os hoffech chi i’ch clwb gynnal cwrs i swyddogion, cysylltwch â zoe.holloway@welshathletics.org i gael mwy o wybodaeth.

Bydd cwblhau Dyfarniad Lefel 1 Swyddogion Technegol (Trac a Maes) yn galluogi unigolion i weithio gyda Swyddogion Technegol eraill UKA mewn disgyblaeth benodol; Beirniad Trac, Amserwr, Beirniad Maes, Cychwynnwr / Cynorthwyydd Cychwynnwr, Diwedd clos.

 

Manylion y cwrs

 

Parhad: 3-4 awr

 

Cynnwys: Drwy fynychu’r cwrs, bydd yr ymgeiswyr yn cael dealltwriaeth a gwybodaeth am y meysydd canlynol:

  • Deall a defnyddio’r rheolau perthnasol i’r swyddogaeth (penodol i Feirniad Trac, Amserwr, Beirniad Maes, Cychwynnwr / Cynorthwyydd Cychwynnwr neu Ddiwedd clos)
  • Gallu dilyn taflen ddyletswydd
  • Perthynas gyda swyddogion eraill
  • Perthynas gyda’r athletwyr
  • Iechyd a Diogelwch
  • Gwisg/offer priodol

Mae’r modiwlau i gyd yn rhyngweithiol ac wedi eu cynllunio i helpu swyddogion i ddefnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau newydd yn ymarferol, drwy weithdai neu drafodaeth neu drwy ddriliau ymarferol.

Bydd cwrs Diwedd Clos Lefel 1 yn amlinellu’r tasgau gwahanol o fewn y tîm diwedd clos, swyddogaeth gweithredwr a’r offer a ddefnyddir. Mae’r cwrs ar lefel ymarferol/cymryd rhan yn bennaf er mwyn gweddu i Swyddogion newydd y ddisgyblaeth (mae dealltwriaeth o Word neu Excel yn fuddiol).

Mae cwrs Amserwr Lefel 1 yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd â lefel uchel o gywirdeb neu’r rhai sy’n dymuno gwella gyda phrofiad ac ymarfer.

 

Oed lleiaf: 14

 

Pris: Am ddim

 

I weld dyddiadau’r cyrsiau sydd ar y gweill cliciwch yma.

 

Os hoffech chi i’ch clwb gynnal cwrs i swyddogion, cysylltwch â zoe.holloway@welshathletics.org i gael mwy o wybodaeth.

 

Mae’n ofynnol i chi gwblhau modiwl Iechyd a Diogelwch fel rhan o Ddyfarniad Lefel 1 ar gyfer Swyddogion Technegol (Trac a Maes). Mae’r modiwl yn datblygu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd Iechyd a Diogelwch ac yn helpu’r ymgeisydd i gynnal asesiad risg Iechyd a Diogelwch. 

 

Parhad: 2-3 awr

 

Pris: Am ddim

 

Ar gyfer dyddiadau’r modiwlau sydd ar y gweill, cliciwch yma.

Parhad: 2-3 awr

 

Cynnwys:

Ar ôl mynychu cwrs Lefel 1 – Swyddog Rhedeg Dygnwch bydd gan yr ymgeiswyr ddealltwriaeth a gwybodaeth am y meysydd canlynol:

  • Sut mae swyddogion rhedeg dygnwch yn gweithredu mewn rasys ffordd a thraws gwlad
  • Y sgiliau angenrheidiol i fod yn swyddog rhedeg dygnwch
  • Y swyddogion allweddol sy’n gweithio mewn digwyddiad dygnwch a’u cyfrifoldebau
  • Dealltwriaeth o’r rheolau a sut i’w defnyddio
  • Ystyriaethau ymarferol cysylltiedig ag asesu’r risg
  • Perthynas gyda swyddogion eraill a’r athletwyr
  • Yr offer i wneud y gwaith
  • Gwybodaeth weithredol o gychwyn, cwrs a diwedd ras ddygnwch
  • Dillad/offer priodol

Oed lleiaf: 18

 

Pris: Am ddim

 

Ar gyfer dyddiadau’r modiwlau sydd ar y gweill cliciwch yma.

 

Os hoffech chi i’ch clwb gynnal cwrs i swyddogion, cysylltwch â zoe.holloway@welshathletics.org i gael mwy o wybodaeth.

 

Mae’n ofynnol i chi gwblhau modiwl Asesu Risg fel rhan o gwrs Lefel 1 – Swyddog Rhedeg Dygnwch.

 

Parhad: 2-3 awr

 

Cynnwys:Ar ôl mynychu’r cwrs hwn bydd gan yr ymgeiswyr ddealltwriaeth a gwybodaeth am y meysydd canlynol:

  • Rhesymau dros gynnal asesiad risg
  • Methodoleg a chynnwys Ymwybyddiaeth o Risg
  • Adnabod peryglon, risgiau a sut i’w rheoli
  • I bwy mae’r risg mewn digwyddiad
  • Pwy sy’n gyfrifol am Ymwybyddiaeth o Risg a phwy sydd angen eu cynnwys
  • Gwerthfawrogiad o’r gwaith o baratoi dogfen Asesu Risg
  • Amserlen ar gyfer paratoi Asesiad Risg
  • Ystyriaethau ymarferol wrth baratoi Asesiad Risg

Pris: Am ddim

 

Ar gyfer dyddiadau’r modiwlau sydd ar y gweill, cliciwch yma.

Mae cwrs Cyfarwyddwr Ras yn gyfle perffaith i Gyfarwyddwyr Ras a Threfnwyr Digwyddiadau i ddysgu mwy am yr hyn sydd ei angen er mwyn cynnal ras ddygnwch.

 

Parhad: 1 diwrnod

 

Cynnwys: Mae rhaglen y cwrs yn cynnwys;

Lleoliad y Ras
Perthynas gyda’r Awdurdod Lleol a’r Adran Briffyrdd
Cynllun ar gyfer y Digwyddiad
Asesiad Risg
Trwyddedu’r Ras
Deunydd Arall
Ymateb/Cwestiynau

Pris: £50

 

Mwyafswm a gaiff fynychu un cwrs: 30 o bobl – y cyntaf i’r felin

 

Ar gyfer dyddiadau’r modiwlau sydd ar y gweill, cliciwch yma.

Swyddogaeth Beirniad Ras yw sicrhau bod trefnwyr y ras yn cydymffurfio â’r amodau trwyddedu a bod ymarferion iechyd a diogelwch y rasys o safon uchel. Mae hyn yn sicrhau bod rheoliadau’r yswiriant yn cael eu bodloni. Mantais ychwanegol yw y bydd presenoldeb beirniad yn caniatáu i Ddyfarnwr Ras, os penodir un, ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar y gwaith o ategu rheolau’r gystadleuaeth. Bydd Beirniaid Ras hefyd yn cael y dasg o baratoi adroddiad a fydd yn caniatáu i drefnwyr y ras gynyddu safon eu ras a safonau rasys ledled Cymru.

Caiff y canlynol fod yn Feirniaid Ras;

  • Swyddogion Rhedeg Dygnwch presennol (Lefel 2b)
  • Swyddog Trwyddedu Rhanbarthol presennol
  • Hyrwyddwr Ras presennol (dylid anfon CV i Grŵp Technegol runbritain)

Os ydych chi’n diddori mewn bod yn Feirniad Ras, cysylltwch â tom.marley@welshathletics.org

Bydd Beirniaid Ras yn cael gwiriad DBS, yn cael eu hyswirio gan Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus UKA ac yn cael achrediad. Bydd costau teithio’n cael eu had-dalu. Bydd rasys Pencampwriaeth Cymru angen Beirniad Ras a Dyfarnwr Ras.