Skip to content

Gweithio fel Swyddog

temp-official.png

Dewch yn rhan o dîm a werthfawrogir yn fawr, i fwynhau boddhad personol mawr, cyflwyno profiadau cystadlu difyr a llwyddiannus…… Dewch yn Swyddog.

 

Mae’r sicrhau bod gwirfoddolwyr newydd neu bresennol yn hyfforddi ac yn datblygu fel swyddogion yn hanfodol bwysig i lwyddiant cystadleuol ar bob lefel yng Nghymru yn y dyfodol.

O’ch clwb lleol i’r Cyngor Athletau Rhanbarthol, mae angen i swyddogion sydd newydd gymhwyso ymuno â’r gweithlu presennol er mwyn cynorthwyo’r calendr cystadlu presennol ac i sicrhau dyfodol athletau yng Nghymru.

Beth bynnag yr hoffech chi ei wneud - helpu i gribinio tywod yn ystod gornest y gynghrair D13, marsialu ras ffordd, arwain timau ym Mhencampwriaethau Cymru neu hyd yn oed weinyddu yn y Gemau Olympaidd, mae cyfle i bawb!

Edrychwch ar ein pecyn croeso NEWYDD

 

Os ydych chi’n newydd i’r maes athletau ac yn awyddus i gael goleuni pellach ar fod yn Gweinyddu trac a maes, mae’r cwrs Swyddog Cynorthwyol yn lle da i gychwyn. Os oes gennych chi ddiddordeb pendant, gallwch fynd yn syth i gymhwyster Trac a Swyddog Lefel 1 sy’n cynnwys amrywiol ddisgyblaethau.

Os oes gennych chi fwy o ddiddordeb mewn Gweinyddu Rasys Dygnwch, mewn cystadlaethau megis traws gwlad, rasys ffordd, llwybrau a mynydd, bydd cwrs Swyddog Dygnwch Lefel 1 yn rhoi’r wybodaeth y mae ei hangen arnoch i gymryd rhan.

I gael gwybodaeth am y cymwysterau swyddogol yr ydym yn eu cynnig, cliciwch yma.