
Digwyddiadau
Clone of Rhedeg Neidio Taflu (RTJ 19.1)

Digwyddiad yn cychwyn: 11/03/2024 16:00
Digwyddiad yn gorffen: 11/03/2024 18:00
Gan fod tymor ysgolion haf athletau ar ddod, mae Athletau Cymru’n trefnu cwrs Rhedeg Neidio Taflu ar gyfer Tystysgrif mewn Dysgu Athletau Cynradd i athrawon Cymdeithasau Athletau Ysgolion Cynradd Gorllewin Morgannwg a Dyfed yn Abertawe. Mae hwn yn weithdy delfrydol i athrawon sy’n dymuno cyflwyno athletau yn yr ysgol ac yn allgyrsiol.
Mae’r gweithdy’n llawn awgrymiadau addysgu a syniadau defnyddiol . Mae’n gwrs rhyngweithiol ac ymarferol a bydd pob ymgeisydd yn derbyn Adnodd Addysgu cynhwysfawr sy’n cynnwys:
- Dwy enghraifft o Gynllun Gwaith
- Dau floc o Gynlluniau Gwersi chwe wythnos
- Dros 20 o gardiau Gweithgaredd ar gyfer gweithgareddau rhedeg, neidio a thaflu.
Nod y cwrs hwn yw rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i athrawon ac eraill sy’n gweithio mewn ysgolion cynradd allu cyflwyno gwersi rhedeg, neidio a thaflu difyr a diddorol sy’n canolbwyntio ar gymryd rhan yn llawn, ar gynyddu dealltwriaeth a chynyddu’r sgiliau a ddysgir; hyn oll yn seiliedig ar fodelau technegol o ansawdd uchel.
Mae’r cwrs, sy’n seiliedig ar adnodd Cynradd Rhedeg Neidio Taflu, yn dangos dilyniant mewn gweithgareddau rhedeg, neidio a thaflu syml. Mae’n seiliedig ar fethodoleg addysgu cynhwysol, sy’n canolbwyntio ar ddatblygu cymhwysedd i ddefnyddio’r sgiliau athletau penodol y mae eu hangen er mwyn rhedeg, neidio a thaflu, sy’n sylfaen i’r rhan helaethaf o chwaraeon.
Mae’r Adnodd, sydd ar gael AM DDIM i bawb sy’n mynychu, wedi ei gynllunio i roi rhedeg, neidio a thaflu wrth wraidd addysg gorfforol yr ysgol ac i gefnogi athrawon i gyflwyno gweithgareddau athletaidd mewn modd cynhwysol, cyffrous a diddorol. Yn yr adnodd hwn, bydd yr athrawon yn dysgu am y tair Adran Addysgu sy’n canolbwyntio ar y prif gyfnodau datblygu:
• 5 - 7 Oed
• 7 - 9 Oed
• 9 - 12 Oed
Byth athrawon hefyd yn cael gwybodaeth ynglŷn â sut i fesur cynnydd a gwelliant disgyblion a chyfres o gardiau cymorth (gan gynnwys Cardiau Disgyblion, Cardiau Cynhwysiant, Cardiau gwybodaeth am Redeg a Amserir a Rasys Cyfnewid Tîm). Ysgrifennwyd Rhedeg Neidio Taflu i gydymffurfio â gofynion y cwricwlwm yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru.
Hyd Gweithdy: 6 awr
I gael mwy o wybodaeth am Weithdy Rhedeg Neidio Taflu cliciwch yma
Dyddiad: 12fed Ebrill 2019
Dyddiad Cau: 8fed Mawrth 2019
Pris: ÂŁ60 y pen (Taliad ar-lein neu dros y ffĂ´n, ffoniwch Zoe Holloway ar 02920 649 849)
Amseroedd: 10:00 - 16:00
Lleoliad: Prifysgol Abertawe
I wneud Cais: e-bostiwch ffurflen gais i andrew.jenkins@welshathletics.org (y cyntaf i’r felin).
Dolenni diddorol
Tudalennau yn yr adran hon a allai fod o ddiddordeb.