Skip to content

Arweinyddiaeth Ffitrwydd Rhedeg (WALiRF 19.6)

Big Social Run 3.jpg

Digwyddiad yn cychwyn: 19/05/2019 07:00
Digwyddiad yn gorffen: 19/05/2019 15:00

Mae cwrs arweinyddiaeth Ffitrwydd Rhedeg (LiRF) wedi ei gynllunio er mwyn darparu’r wybodaeth a’r yswiriant i’ch galluogi i arwain sesiynau ffitrwydd i bobl dros 12 oed. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddeall a goresgyn rhwystrau i redeg ac yn eich galluogi i gyflwyno sesiynau difyr a diogel i grwpiau gallu amrywiol.

Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi yswiriant i chi arwain grŵp o fewn cyfyngiadau cynnwys y cwrs. Mae’n ofynnol eich bod wedi cwblhau cwrs Arweinyddiaeth Ffitrwydd Rhedeg er mwyn mynd ymlaen i gymhwyster Hyfforddwr Ffitrwydd Rhedeg.

Rhaid i’r ymgeiswyr gymryd rhan yn y tasgau a’r gweithgareddau drwy gydol y cwrs a dangos gwell ymgysylltiad ar ôl unrhyw drafodaethau gydag aelodau staff y cwrs. Mae’r ymgeiswyr nad ydynt yn mynd i’r afael â phob un o agweddau’r cwrs mewn perygl o beidio ennill y cymhwyster ar ddiwedd y broses.

 

Hyd: Cwrs 1 diwrnod 

I gael mwy o fanylion am gwrs Arweinyddiaeth Ffitrwydd Rhedeg, cliciwch yma.

Dyddiad: Dydd Sul, 19fed Mai

Pris: £125 i Aelodau Cyswllt £155 i eraill

Amser: 9:00 - 17:00

Cod y Cwrs: WALiRF 19.6

Lleoliad: De Cymru (TBC)

Dyddiad cau ar gyfer cofrestru: 

Er mwyn gwneud cais: 

Cliciwch ar y ddolen er mwyn cofrestru ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. 

Neu anfonwch ffurflen gais wedi ei llenwi a’i llofnodi i zoe.holloway@welshathletics.org 

Beth arall sydd angen i chi ei wneud ar ôl i chi gadw eich lle ar y cwrs?

Er mwyn ennill eich trwydded, bydd angen i chi gael gwiriad clir gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) drwy UK Athletics. Cewch weld statws eich gwiriad a chwblhau’r broses drwy fewngofnodi i’ch cyfrif gydag Athletau Cymru a dilyn y cyfarwyddiadau isod:

1. Cliciwch y ddolen ar gyfer myATHLETICS portal

2. Nodwch eich enw defnyddiwr (URN)

3. Ar ôl ichi fewngofnodi fe welwch adran gyda’ch manylion personol. Ar waelod yr adran gyntaf, dangosir statws cyfredol eich gwiriad DBS. 

4. Cliciwch ar y ddolen briodol er mwyn diweddaru eich gwiriad DBS. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrîn.

5. Llwythwch lun maint pasbort.

Pan fydd UK Athletics wedi derbyn eich llun a chopi electronig o’ch tystysgrif DBS, bydd eich trwydded yn cael ei pharatoi a’i hanfon i chi.

 

Mwy o gwestiynau? I gael unrhyw wybodaeth ychwanegol am y cwrs hwn, cysylltwch â zoe.holloway@welshathletics.org