Skip to content

Cynorthwydd Hyfforddi (WACA 19.10)

ca.jpg

Digwyddiad yn cychwyn: 30/03/2019 09:00
Digwyddiad yn gorffen: 31/03/2019 16:00

Bydd Cynorthwydd Hyfforddi wedi ei yswirio i wneud gwaith hyfforddi dan oruchwyliaeth Hyfforddwr (Hyfforddwr Athletau neu hyfforddwr UKA Lefel 2 neu uwch).

Mae’r cwrs yn amlinellu swyddogaethau a chyfrifoldebau Cynorthwyydd Hyfforddi, y gwahaniaeth rhwng y cwrs a chyrsiau Arweinydd a Hyfforddwr Athletau a’i safle o fewn y Llwybr Datblygu Hyfforddwr. Bydd nodweddion sylfaenol symud (biomecaneg) yn cael eu dysgu, yn ogystal â chyflwyniad i’r campau athletaidd. Edrychir ar nifer o agweddau dros y penwythnos, gan gynnwys yr egwyddorion sy’n sail i ac yn gwella perfformiad yn ogystal â dulliau o gyflwyno hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar yr athletwr.

Hyd: Cwrs 2 ddiwrnod (dydd Sadwrn a dydd Sul fel arfer)

I gael mwy o fanylion am gwrs Cynorthwyydd Hyfforddi, cliciwch yma.

Dyddiad: Dydd Sadwrn & Sul Mawrth 30 fed & 31fed 

Pris: ÂŁ170 i Aelodau Cyswllt ÂŁ210 i eraill

Amser: 9:00 - 17:00

Cod y Cwrs: WACA19.10

Lleoliad: Aberystwyth

Dyddiad cau ar gyfer cofrestru: Dydd Gwener 22fed Mawrth

Er mwyn gwneud cais: 

Cliciwch ar y ddolen er mwyn cofrestru ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. 

Neu anfonwch ffurflen gais wedi ei llenwi a’i llofnodi i zoe.holloway@welshathletics.org 

Beth arall sydd angen i chi ei wneud ar Ă´l i chi gadw eich lle ar y cwrs?

Er mwyn ennill eich trwydded, bydd angen i chi gael gwiriad clir gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) drwy UK Athletics. Cewch weld statws eich gwiriad a chwblhau’r broses drwy fewngofnodi i’ch cyfrif gydag Athletau Cymru a dilyn y cyfarwyddiadau isod:

1. Cliciwch y ddolen ar gyfer myATHLETICS portal

2. Nodwch eich enw defnyddiwr (URN)

3. Ar Ă´l ichi fewngofnodi fe welwch adran gyda’ch manylion personol. Ar waelod yr adran gyntaf, dangosir statws cyfredol eich gwiriad DBS. 

4. Cliciwch ar y ddolen briodol er mwyn diweddaru eich gwiriad DBS. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrîn.

5. Llwythwch lun maint pasbort.

Pan fydd UK Athletics wedi derbyn eich llun a chopi electronig o’ch tystysgrif DBS, bydd eich trwydded yn cael ei pharatoi a’i hanfon i chi.

 

Mwy o gwestiynau? I gael unrhyw wybodaeth ychwanegol am y cwrs hwn, cysylltwch â zoe.holloway@welshathletics.org