Skip to content

Datganiad gan Brif Gweithredwr a Chadeirydd Gemau Gymanwlad Cymru

12/08/2020 00:00, I Mewn Blog /

Ymateb i gynlluniau #Birmingham2022 ar gyfer pentref athletwyr aml-safle

Alternative Accommodation Update


Wrth i'r newyddion dorri ar gynlluniau B2022 ar gyfer pentref athletwyr aml-safle, mae Gemau Gymanwlad Cymru, corff cynrychioliadol Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad, ynghyd â llawer o CGA eraill, yn cefnogi penderfyniad ar model gwahanol ac yn edrych ymlaen at weithio i greu amgylchedd unedig a chadarnhaol sy'n canolbwyntio ar berfformiad.

Dywedodd Chris Jenkins, Prif Weithredwr Gemau Gymanwlad Cymru:

“Er y bydd ychydig o heriau i Dîm Cymru, mae'r model Pentref newydd yn golygu y bydd athletwyr wedi'u lleoli'n agosach at eu lefydd perfformio a allai fod yn gadarnhaol iawn ar gyfer eu paratoiadau, eu perfformiad a'u hadferiad.

Byddwn yn gweithio’n agos gyda chwaraeon ac athletwyr i gyfrannu at gynllunio Birmingham 2022 ac i addasu cynlluniau ‘Team Wales’ i sicrhau ein bod yn darparu lefel uchel o gefnogaeth i’r Tîm, gan arwain at berfformiadau i gyffroi Cymru a’r Gymanwlad. ”

 

Dywedodd Helen Phillips MBE, Cadeirydd Gemau Gymanwlad Cymru:

“Rydym yn cydnabod yr effaith y mae Covid19 wedi'i chael ar gynlluniau gwreiddiol ac yn llongyfarch B2022 ar eu hymateb effeithlon i'r sefyllfa. Er nad yw'n ddelfrydol, rydym yn sicr ac yn hyderus y bydd yr ateb newydd yn darparu amgylchedd perfformio rhagorol i'n hathletwyr a byddwn yn parhau i weithio gyda B2022 yn fwy manwl.

Gallai’r model newydd, sy’n ymateb i'r digwyddiadau diweddar, siapio'r ffordd i ddarpar westeion gemau yn y dyfodol.”

 

Mwy o wybodaeth am gynlluniau #Birmingham2022 ar gyfer pentref athletwyr aml-safle fan hyn:

https://www.birmingham2022.com/news/blog/birmingham-2022-will-use-multi-site-athlete-villages/