Skip to content

Achub Bywyd

19/11/2021 00:00, I Mewn Blog /

Diffibrilwyr am ddim i gymdeithasau chwaraeon yng Nghymru


Bob blwyddyn mae dros 6,000 o bobl yng Nghymru yn cael ataliad y galon yn y gymuned a bydd llawer ohonynt yn marw heb ymyrraeth hanfodol CPR a diffibriliwr gan rhywyn sydd wrth law.

Yng Nghymru mae'r gyfradd goroesi ataliad y galon yn llai na 5% ar hyn o bryd. Ein cenhadaeth yn Achub Bywyd Cymru yw i annog pawb i fod yn barod i geisio  achub bywyd trwy ddysgu sgiliau CPR a diffibrileiddio.

Mae ataliad y galon yn gyflwr lle mae'r galon yn rhoi'r gorau i weithio yn ddisymwth; mae'r person yn disgyn yn anymwybodol ac yn peidio anadlu fel arfer. Gall ddigwydd i bobl sy'n ymddangos yn iach a heb unrhyw risgiau hysbys.

Os bydd ataliad yn galon yn digwydd, rhaid dechrau CPR yn syth i bwmpio’r gwaed o amgylch y corff a rhaid canfod diffibriliwr a'i ddefnyddio i ailgychwyn y galon. 

Nid oes unrhyw sefyllfa feddygol arall sy'n dibynnu ar y fath gefnogaeth ac ymrwymiad cymunedol.

Er mwyn annog cymunedau i helpu achub bywydau, mae gennym 500 o ddiffibrilwyr am ddim ar gael i'w dosbarthu ledled Cymru.   Mae’r broses ymgeisio yn  hawdd ac yn seiliedig ar feini prawf syml a geir yma: www.llyw.cymru/achub-bywyd-cymru