Skip to content

Cymhwysterau Hyfforddwr

Mae dau bwynt mynediad i Lwybr Datblygu Hyfforddwr British Athletics – un ai fel Arweinydd neu fel Hyfforddwr Cynorthwyol.

 

 

Cynhelir y cyrsiau i gyd os cadarnheir lleiafswm o 12 ymgeisydd erbyn y dyddiad cau ar gyfer cofrestru. Bydd y cyfle i gofrestru yn dod i ben ar y dyddiad a hysbysebir, neu cyn gynted ag y mae’r cwrs yn llawn. 16 yw’r mwyafswm a ganiateir ar y cwrs Hyfforddwr Ffitrwydd Rhedeg (CiRF) a Hyfforddwr Athletau; 16 ar y cwrs Cynorthwyydd Hyfforddi a 20 ar gwrs Arweinyddiaeth Ffitrwydd Rhedeg (LiRF). Cofrestrwch cyn gynted ag y bo modd er mwyn osgoi cael eich siomi.

 

Ffioedd y cyrsiau: 

Arweinyddiaeth Ffitrwydd Rhedeg: £125.00 (aelodau cyswllt) / £155.00 (eraill)
Cynorthwyydd Hyfforddi:  £170.00 (aelodau cyswllt) / £210.00 (eraill)
Hyfforddwr Ffitrwydd Rhedeg: £350.00 (aelodau cyswllt) / £400.00 (eraill)
Hyfforddwr Athletau: £350.00 (aelodau cyswllt) / £400.00 (eraill)

 

Mae Telerau ac Amodau Athletau Cymru yn berthnasol i bob archeb am le ar gwrs a gweithdy 

 

Gweler isod fanylion llawn am ein cymwysterau.

Gweithdy cyffrous i Athrawon Ysgolion Cynradd a’r rhai sy’n dymuno cyflwyno athletau yn yr ysgol ac yn allgyrsiol. Mae’r gweithdai’n seiliedig ar adnodd Teaching Primary Schools Athletics ac yn dangos dilyniant addysgu ar draws grwpiau oedran Ysgol Gynradd mewn gweithgareddau rhedeg, neidio a thaflu generig yn ogystal â’r rhai sy’n benodol i athletau. Mae’r gweithdy’n cynnwys:

 

• Gweithgareddau rhyngweithiol ac ymarferol

• Adnodd Addysgu cynhwysfawr sy’n cynnwys:

  • Dwy enghraifft o Gynlluniau Gwaith a dau floc o Gynlluniau Gwersi 6 wythnos
  • Dros 20 o gardiau Gweithgaredd ar gyfer rhedeg, neidio a thaflu
  • Cyfres o Gardiau Cymorth ar Sut i Fesur cynnydd a gwelliant disgyblion, Cardiau Cynhwysiant, Cardiau gwybodaeth am Redeg a Amserir a Rasys Cyfnewid Tîm.

Mae’r gweithdy wedi ei anelu at athrawon cymwysedig ac athrawon dan hyfforddiant, yn ogystal â’r rhai sy’n cefnogi cyflwyniad addysg chwaraeon ac addysg gorfforol o safon uchel mewn ysgolion cynradd. Nod y gweithdy yw rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder sy’n angenrheidiol er mwyn cyflwyno gwersi difyr a diddorol sy’n canolbwyntio ar gyfranogiad llawn a chynyddu dealltwriaeth, sgiliau, ffitrwydd a mwynhad plant.

 

Yr Adnodd

Mae Rhedeg, Neidio, Taflu yn cyd-fynd ag awydd naturiol plentyn i symud. Mae’r adnodd yn canolbwyntio ar redeg, neidio a thaflu; conglfeini athletau, sy’n sail i bron bob camp a gweithgaredd corfforol arall. O fewn yr adnodd hwn, bydd athrawon yn cael tair Adran Addysgu sy’n cynnwys y prif gyfnodau datblygu:

•  5 - 7 Oed

• 7 - 9 Oed

• 9 - 12 Oed

 

Manylion y Cwrs

 

Hyd:  Ar gael ar ffurf sesiynau 3 awr a 6 awr

Pris:  Pris unigolyn £55 (3 awr), Pris grŵp £450 (3 awr, lleiafswm o 8 ymgeisydd) neu £650 (6 awr, lleiafswm o 10 ymgeisydd).

Mwyafswm yr ymgeiswyr ym mhob gweithdy:  18

 

I gael mwy o fanylion cysylltwch â zoe.holloway@welshathletics.org

 

I weld dyddiadau nesaf y cwrs cliciwch yma.

Er nad yw’n gymhwyster ffurfiol, mae gweithdy Arwain Athletau yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n awyddus i arwain gweithgareddau athletaidd ar gyfer athletwyr ifanc; y cam perffaith tuag at gymhwyster Cynorthwyydd Hyfforddi.

 

Ar gyfer pwy?

Defnyddir y gweithdy yn eang gan ysgolion, colegau a phrifysgolion ledled Cymru i gyflwyno gofynion arweinyddiaeth o fewn y cwricwlwm ac mae’n cynnwys:

  • Gweithdy 3 awr ymarferol a rhyngweithiol
  • Gweithlyfr
  • Adnodd Cymorth – gwybodaeth am swyddogaethau a chyfrifoldebau arweinydd, sut i arwain sesiynau difyr a chynhwysol a sut i ddatblygu eich sgiliau arwain. Mae’r adnodd yn llawn cyngor ar sut i gyflwyno’n effeithiol ac yn edrych ar egwyddorion allweddol cystadlaethau rhedeg, neidio a thaflu a darparu gwybodaeth dechnegol ar yr un pryd.
  • Set o Gardiau Chwarae – sut i sefydlu gweithgareddau difyr a diddorol sydd wedi eu cynllunio i gyflwyno elfennau sylfaenol rhedeg, neidio a thaflu i athletwyr ifanc.
  • Ap Leading Athletics – yn cyd-fynd â’r Gweithdy ac yn caniatáu i ddefnyddwyr gyflwyno gweithgareddau’n rhyngweithiol a chysylltu’n ddi-dor â’r adnoddau cymorth eraill (ar gael yn yr App Store a Google Play Store, nid yw hwn wedi ei gynnwys ym mhris y gweithdy).

 

Buddion i’r Dysgwr:

•Gweithdy ac adnoddau sy’n cefnogi cyflwyniad y rhaglen

•Sylfaen cadarn y gellir symud ymlaen ar ei ôl i lwybr Hyfforddi neu Weinyddu British Athletics

•Helpu i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth a chyflwyniad generig, sy’n hanfodol mewn meysydd eraill mewn bywyd

•Galluogi’r rhai nad ydynt yn hoff o chwaraeon fel y cyfryw i gymryd rhan lawn a gweithgar yn y gwaith o gyflwyno athletau

•Gwella hunanhyder ac, o bosib, ymddygiad drwy annog y cyfranogwyr i ysgwyddo cyfrifoldeb dros eu dysg a’u mwynhad eu hunain

 

Buddion i Sefydliadau:

•Cymhwyster cydnabyddedig a gyflwynir ar draws y DU

•Hyfforddi a datblygu gwirfoddolwyr brwdfrydig a all helpu i gefnogi cyflwyniad gweithgareddau athletau yng Nghymru, gan feithrin gweithlu mwy ymroddedig

•Creu arweinwyr newydd y gellir eu defnyddio i gyflwyno gweithgareddau athletau yn ystod clybiau amser cinio ac ar ôl yr ysgol, gwyliau chwaraeon a thwrnameintiau, cynlluniau gwyliau a digwyddiadau cymunedol cysylltiedig â chwaraeon

•Mewn ysgolion, mae gan arweinyddiaeth athletau bŵer i wella lles a gallu disgyblion i ddysgu yn gadarnhaol a’u helpu i dyfu a datblygu fel oedolion ifanc

•Mwy o ddealltwriaeth o eraill ac empathi yn gymorth i greu awyrgylch cefnogol a chydweithredol

• Gwell perthynas rhwng grwpiau cymunedol, ysgolion a sefydliadau lleol

 

Pris:  Unigol  - £20  y pen (neu £25 y pen gan gynnwys yr Adnodd Cymorth)

Gweithdy - £350 y gweithdy gyda hyd at 20 yn cymryd rhan

 

I drefnu gweithdy ar gyfer eich sefydliad neu glwb athletau cysylltwch â zoe.holloway@welshathletics.org

 

I weld dyddiadau’r cyrsiau sydd ar y gweill cliciwch yma.

Mae cwrs Arweinyddiaeth Ffitrwydd Rhedeg (LiRF) wedi ei gynllunio er mwyn darparu’r wybodaeth a’r yswiriant i’ch galluogi i redeg sesiynau ffitrwydd sy’n seiliedig ar redeg i bobl dros 12 oed.

Bydd y cwrs yn galluogi Arweinwyr i gyflwyno sesiynau difyr a diogel i grwpiau gallu amrywiol a rhoi cyngor a chefnogaeth i redwyr newydd, yn ogystal â datblygu llwybrau i’r rhai sydd eisiau symud ymlaen. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddeall a goresgyn rhwystrau i redeg a sut y gellir annog mwy o bobl nad yw’r syniad o glwb rhedeg yn apelio atynt yn draddodiadol.

Manylion y Cwrs

Hyd: 1 diwrnod (9am – 5pm fel arfer)

Pris: Aelod cyswllt: £125    Eraill: £155

Oed isaf i fynychu: 18 oed. Prynu'r a chwblhau modiwl diogelu yn y maes athletau ar-lein.

I gael mwy o fanylion ewch i Athletics Hub.

I weld dyddiadau’r cyrsiau sydd ar y gweill cliciwch yma.

Bydd Cynorthwyydd Hyfforddi yn cael yswiriant i wneud gwaith hyfforddi dan oruchwyliaeth Hyfforddwr (Hyfforddwr Athletau neu hyfforddwr UKA Lefel 2 neu uwch).

Mae’r cymhwyster hwn wedi ei anelu at wirfoddolwyr clwb 16 oed a hŷn sy’n awyddus i gychwyn ar y Llwybr Datblygu Hyfforddwr. Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd eisiau gweithio tuag at fod yn Hyfforddwr Athletau a chychwyn ennill profiad yn gwneud penderfyniadau hyfforddi.

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys elfennau symud sylfaenol, gyda chyflwyniad i egwyddorion allweddol athletau; rhedeg, neidio, taflu ac mae’n cynnwys rasio cadair olwyn, dros rwystrau, yn ogystal â ras gerdded. Hefyd yn y cwrs, edrychir ar egwyddorion sy’n sail i ac sy’n gwella perfformiad, gan ddefnyddio dull o gyflwyno sy’n canolbwyntio ar yr athletwr a cheir cyflwyniad sylfaenol i’r systemau egni. Byddwch yn dysgu sut i weithredu egwyddorion arfer gorau er mwyn dysgu am drefniadaeth, rheoli grwpiau a diogelwch mewn amgylchedd newidiol. Yn rhan ymarferol y cwrs byddwch yn defnyddio ac yn datblygu cynlluniau sesiwn priodol, yn ymarfer hyfforddi cyn cael adolygiad gan gymheiriaid a datblygu ymwybyddiaeth a sgiliau technegol.

Ar ôl i chi gwblhau’r cwrs a derbyn eich trwydded Cynorthwyydd Hyfforddi, byddwch yn helpu i gyflwyno sesiynau hyfforddi athletau o dan oruchwyliaeth Hyfforddwr cymwysedig. I gyfranogwyr o dan 18 oed, bydd hyn yn golygu goruchwyliaeth ‘uniongyrchol’, ond i’r rhai sy’n 18 neu’n hŷn bydd yn golygu goruchwyliaeth ‘anuniongyrchol’.

Manylion y Cwrs

Hyd: 2 ddiwrnod – cwrs penwythnos, rhwng 9am a 5pm fel arfer. Y ddau ddiwrnod yn cynnwys gweithgareddau ymarferol ac amser yn yr ystafell ddosbarth

Pris: Aelodaeth gyswllt: £170   Eraill: £210

Oed isaf i fynychu: 16 Oed. Prynu'r a chwblhau modiwl diogelu yn y maes athletau ar-lein.

Deunydd cyn y cwrs – ewch i Athletics Hub.

Gwybodaeth gefnogol ar ôl y cwrs – ewch i Athletics Hub. 

Asesiad – Dim elfen asesu. Bydd trwydded Cynorthwyydd Hyfforddi yn cael ei rhoi i’r ymgeiswyr llwyddiannus sydd wedi cymryd rhan yn y tasgau a’r gweithgareddau drwy gydol y cwrs a dangos ymgysylltiad ar ôl unrhyw drafodaethau gydag aelodau staff y cwrs.

 

I weld dyddiadau’r cyrsiau sydd ar y gweill, cliciwch yma

Mae cymhwyster Hyfforddwr Ffitrwydd Rhedeg (CiRF) wedi ei gynllunio ar gyfer y rhai sydd eisiau hyfforddi rhedwyr dros 12 oed sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau nad ydynt yn rai ar y trac h.y. rhedeg ffordd, bryniau, traws gwlad neu dir amrywiol.

 

Mae’r rhaglen yn un ar gyfer y rhai sy’n gweithio gyda rhedwyr hyd at, ac yn cynnwys, gyfnod datblygu’r grŵp cystadleuaeth. Rhaid i bob ymgeisydd fod yn arweinydd neu’n hyfforddwr gweithredol sydd wedi cwblhau cwrs Arweinyddiaeth Ffitrwydd Rhedeg (LiRF) neu Gynorthwyydd Hyfforddi Lefel 1 o leiaf.

 

Sylwer os gwelwch yn dda bod cymhwyster CiRF yn ymwneud â’r ymroddiad cyffredinol i gystadlaethau dygnwch nad ydynt yn rhai trac, ac nid yw’n gwrs ar gyfer hyfforddwyr sydd eisiau gweithio gyda rhedwyr sy’n cymryd rhan mewn cystadlaethau dygnwch ar y trac megis yr 800m – 10,000m neu’r ras ffos a pherth.

 

Manylion y Cwrs

 

Hyd: 4 diwrnod cyswllt yn ogystal â gwaith astudio, cynllunio a pharatoi ar gyfer yr asesiadau a wneir adref. Diwrnod 1 a 2 yn cael eu cyflwyno fel penwythnos a chynhelir y 3ydd diwrnod 4-6 wythnos yn ddiweddarach.

Mae 10-12 wythnos wedyn cyn Diwrnod 4, sydd yn asesiad ymarferol a gaiff ei arsylwi. Bydd rhaglen CiRF yn cymryd pum mis o leiaf i’w gwblhau, fodd bynnag, ar ôl cychwyn, caiff yr ymgeiswyr gymryd hyd at ddwy flynedd i gwblhau’r holl elfennau.

 

Cynnwys:

Cyfuniad o weithgareddau ystafell ddosbarth a sesiynau ymarferol yn cynnwys:

•Cynhesu a Datblygu Sgiliau

•Sgiliau Rhedeg Sylfaenol

•Profi a Monitro (a’u pwrpas)

•Cyflwyno a datblygu sgiliau HOW-2 (Arsylwi a Dadansoddi / Adborth a Chwestiynu / Diogelwch / Trefniadaeth / Cyfarwyddyd ac Eglurhad / Dangos)

•Hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar yr athletwr

•Llwybr Datblygu Athletwr

•Proffilio athletwr a chynllunio tymor byr - canolig

•Hyfforddi cynhwysol

•Achosion cyffredin anafiadau ac arsylwi a chynllunio er mwyn atal anafiadau

•Asesiadau risg

•Ffactorau sy’n effeithio ar berfformiad, egwyddorion hyfforddiant ac elfennau ffitrwydd

 

Pris: Aelodau cyswllt: £350    Eraill: £400 ( Diwrnod 1 a 2, Diwrnod 3 a Diwrnod Asesu)

 

Oed isaf i fynychu: 18 oed. Prynu'r a chwblhau modiwl diogelu yn y maes athletau ar-lein.

 

Asesiad: Prawf gwybodaeth ar-lein, cynllun mesogylch a diwrnod asesu ymarferol a gaiff ei arsylwi. Cliciwch i weld Canllaw Asesu llawn CiRF.

 

I gael gwybodaeth fanwl a’r deunydd cyn y cwrs ewch i wefan Athletics Hub.

 

I weld dyddiadau’r cyrsiau sydd ar y gweill, cliciwch yma.

Bydd cymhwyster Hyfforddwr Athletau yn datblygu gwybodaeth ac arbenigedd technegol hyfforddwr ym meysydd cystadlu craidd gweithgareddau rhedeg, neidio a thaflu yn ogystal ag arbenigo ym maes y Grŵp Cystadleuaeth ddewisol, gan gefnogi’r cynnydd a wneir ar y Llwybr Datblygu Hyfforddwr.

Mae’r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd wedi cyflawni cymhwyster Cymhorthydd Hyfforddi UKA neu Hyfforddwr Cynorthwyol Lefel 1 UKA ac sydd wedi treulio o leiaf 6 mis fel Hyfforddwr Cynorthwyol ac sy’n teimlo’n barod i gymryd y cam nesaf i reoli eu grwpiau hyfforddi eu hunain.

Manylion y Cwrs

Hyd: 4 diwrnod cyswllt yn ogystal â gwaith astudio, cynllunio a pharatoi ar gyfer asesiad i’w wneud adref. Cyflwynir Diwrnod 1 a 2 ar yr un penwythnos ac edrychir ar gynnwys generig. Cynhelir y 3ydd Diwrnod 4-6 wythnos yn ddiweddarach ac mae’n edrych ar gynnwys technegol yn y grŵp cystadleuaeth ddewisol. Mae Diwrnod 4 yn asesiad ymarferol a gaiff ei arsylwi.

Cynnwys Generig:

  • Paratoad corfforol a llythrennedd
  • Neidio ar gyfer Uchder a Neidio ar gyfer Pellter
  • Taflu gan ganolbwyntio ar egwyddorion technegau Gwthio a Thynnu
  • Rhedeg yn gyflym, dros rwystrau, ar gyfer dygnwch, rasio cadair olwyn
  • Swyddogaeth yr hyfforddwr
  • Hyfforddi sy’n Canolbwyntio ar yr Athletwr
  • Llwybr Datblygu Athletwr
  • Proffilio athletwr a Chynllunio tymor byr - canolig

 

Cynnwys Technegol y Grŵp Cystadleuaeth: I gael manylion llawn ewch i wefan Athletics Hub.

Pris: Aelod Cyswllt: £350, eraill: £400 (cynnwys Diwrnod 1 a 2, Diwrnod 3 a Diwrnod Asesu)

Oed isaf i fynychu: 18 oed. Prynu'r a chwblhau modiwl diogelu yn y maes athletau ar-lein.

Asesiad: Prawf gwybodaeth ar-lein, cynllun mesogylch ac asesiad ymarferol a arsylwir yn y grŵp cystadleuaeth ddewisol. I gael mwy o wybodaeth, gweler Canllaw Asesu Hyfforddwr Athletau.

Cyn mynychu’r cwrs Hyfforddwr Athletau, mae’n ofynnol i’r hyfforddwyr i gyd gwblhau’r deunydd cyn y cwrs .

Rhaid i’r ymgeiswyr sy’n cychwn ar y cwrs hwn wneud hynny gyda’r wybodaeth y bydd yn rhaid iddynt fuddsoddi eu hamser i gwblhau’r gwaith papur angenrheidiol er mwyn llwyddo yn y cyfnod asesu.

Ar ôl cymhwyso, byddwch wedi eich yswirio i hyfforddi heb oruchwyliaeth, ac yn gweithio gyda Chynorthwywyr Hyfforddi ac Arweinwyr Athletau a fydd yn eich cynorthwyo i gyflwyno’r sesiynau.
 

I weld dyddiadau’r cyrsiau sydd ar y gweill, cliciwch yma.