Performiad a Datblygu
Rhaglen Cefnogaeth Athletwyr
Datblygir rhaglen gymorth Gemau’r Gymanwlad Athletau Cymru mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru ac mae iddi dair lefel yn ogystal â chategori Athletwr Cysylltiol.
PODIWM GEMAU’r GYMANWLAD
· Mae’r lefel hon yn cynorthwyo athletwyr uwch sy’n debygol o fod yn cynrychioli Cymru yng Ngemau nesaf y Gymanwlad ac sy’n debygol o ennill medal neu fod o fewn yr 8 uchaf. Mae’n debygol bod yr athletwyr hyn hefyd yn athletwyr sy’n cynrychioli’r Deyrnas Unedig ac yn cystadlu i gyrraedd y gemau Olympaidd.
POTENSIAL GEMAU’R GYMANWLAD
· Mae’r lefel hon yn cynorthwyo amrywiaeth o athletwyr uwch, o’r rhai a fydd yn cystadlu i gael eu dewis ar gyfer Gemau’r Gymanwlad i’r rhai sy’n agos iawn at gyrraedd rowndiau terfynol a chystadlu am fedalau.
DATBLYGU TALENT Y GYMANWLAD
· Mae’r lefel hon yn rhoi cymorth nad yw’n gymorth ariannol i’r athletwyr yn y categori oedran 17-22 y mae posibilrwydd y byddant yn cyrraedd tîm Cymru yng Ngemau nesaf y Gymanwlad ac sydd â photensial i ennill medelau neu gyrraedd yr 8 uchaf mewn blynyddoedd i ddod yng Ngemau’r Gymanwlad. Bydd pawb sy’n cael eu cynorthwyo ar lefel Datblygu Talent yn cael eu henwebu i gael cyllid gan Sports Aid.
ATHLETWR CYSYLLTIOL
· Cyflwynwyd categori Athletwr Cysylltiol er mwyn cynorthwyo athletwyr unigol profiadol sydd ag uchelgais o gymhwyso i gystadlu mewn pencampwriaethau mawr yn y ddwy flynedd nesaf.
Mae’n ofynnol i bob athletwr sy’n derbyn cymorth lofnodi cytundeb athletwr sy’n egluro yr hyn a ddisgwylir ganddo/ganddi fel athletwr a gefnogir a’r hyn y gall ef/hi ei ddisgwyl gan Athletau Cymru. Caiff y gefnogaeth ei hadolygu bob blwyddyn, ac mae rhaglen baralel i gynorthwyo datblygiad hyfforddwyr hefyd yn weithredol. Caiff cefnogaeth i bara-athletwyr ei reoli a’i ddosbarthu gan Chwaraeon Anabledd Cymru. Goruchwylir y rhaglen gymorth gan Adrian Palmer.
Er bod y cymorth a gynigir yn cael ei deilwra ar gyfer anghenion a lefel cefnogaeth pob athletwr, gall rhai o’r buddion gynnwys;
- Cymorth meddygol, gan gynnwys; cymorth Meddyg Chwaraeon, Ffisiotherapydd a Therapydd Tylino
- Cymorth gwyddor chwaraeon, gan gynnwys: cymorth Maethegydd, Ffisiolegydd a Seicolegydd
- Cymorth gan Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru
- Cyngor ar berfformiad
- Cymorth hyfforddwr
- Grantiau hyfforddi tywydd cynnes
- Cymorth ar gyfer cystadlaethau rhyngwladol
- Cael defnyddio cyfleusterau mewn lleoliadau hyfforddi penodedig
- Grant cymorth i athletwyr
Caiff pob athletwr weithiwr cyswllt penodol o fewn tîm perfformiad Athletau Cymru hefyd. Mae’r cyswllt hwn ar gael i gynorthwyo parau o hyfforddwyr ac athletwyr gyda phethau megis;
- Adolygu / cydosod rhaglenni cystadlu
- Adolygu / llunio rhaglenni hyfforddi
- Adnabod a dod o hyd i rwydweithiau cefnogaeth
- Hwyluso’r prosesau adolygu blynyddol
- Hwyluso cynllunio blynyddol a gosod targedau
Dewisir athletwyr ar gyfer y rhaglen yn seiliedig ar y safonau perfformio y cytunir arnynt fel yr amlinellir yn y Tablau Goddefiant isod.
Mae’r tablau’n cael eu hadolygu – anfonwch unrhyw ymholiadau at adrian.palmer@welshathletics.org
Mae’r tablau’n cael eu hadolygu – anfonwch unrhyw ymholiadau at adrian.palmer@welshathletics.org
Dolenni diddorol
Tudalennau yn yr adran hon a allai fod o ddiddordeb.